Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (143)v5 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
Cwestiwn Brys Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymddiswyddiad Cadeirydd a Phrif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? |
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud) |
3 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Addysg (Cymru) (60 munud) |
5 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cymwysterau yng Nghymru - gohiriwyd |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: |
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 i drin Bil a gaiff ei alw’n Fil Sector Amaethyddol (Cymru) fel Bil Brys y Llywodraeth (20 munud) NDM5279 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol sefydlog 26.95 yn: Cytuno bod Bil llywodraeth a gaiff ei alw’n Fil Sector Amaethyddol (Cymru) a gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth. Danfowyd gwybodaeth ynghylch prif ddibenion y Bil a gaiff ei alw’n Fil Sector Amaethyddol (Cymru) at Aelodau’r Cynulliad ar 25 Mehefin 2013. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu na fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu sicrhau bod y Bil arfaethedig yn destun proses graffu ddigonol. Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i ddilyn y weithdrefn Bil Cyhoeddus lawn ar gyfer y Bil, ac ystyried y cyfle a gafodd i wneud hynny. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Nodi; a) fod prif ddibenion y Bil arfaethedig yn cynnwys dulliau pennu cyflogau, a; b) nad yw’r gyfraith cyflogaeth wedi’i rhestru o dan Atodlen 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
|
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a gaiff ei alw’n Fil Sector Amaethyddol (Cymru) (5 munud) NDM5280 Alun Davies (Blaenau Gwent) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.98(ii) yn: Cytuno y bydd yr amserlen ar gyfer Bil Brys llywodraeth a gaiff ei alw’n Fil Sector Amaethyddol (Cymru) fel ag y mae yn ‘Amserlen ar gyfer ystyried Bil Sector Amaethyddol (Cymru)’ a osodwyd ger bron y Cynulliad ar 25 Mehefin 2013. Dogfen Ategol |
8 Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygio Deddf Addysg 1996) (Cymru) 2013 (15 munud) NDM5277 Lesley Griffiths (Wrecsam) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5: Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygio Deddf Addysg 1996) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Mehefin 2013. Dogfennau Ategol
|
9 Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (120 mins) Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau
i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r
atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. 1, 66
2. Adnoddau i Fyrddau Iechyd Lleol 40
67 4. Cydsynio i roi organau: deunydd a eithrir 2, 7, 8, 17, 29I,
29B, 29C, 29D, 29A, 29E, 29F, 29G, 29H, 29, 33, 34, 35, 36,
38 5. Cydsynio i roi organau: cydsyniad tybiedig 41, 47, 48, 49,
50, 69, 63, 64 6. Cynrychiolwyr penodedig 3A, 3, 42, 4, 43,
44, 45, 46, 52, 11A, 11, 12, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 62 7. Technegol a chanlyniadol 5, 6, 9, 10, 13, 14, 15, 16, 18, 19, 32, 37
8. Cydsynio: cydsyniad datganedig 51
9. Cydsynio: oedolion a eithrir 53, 54, 55,
68 10. Cynrychiolwyr penodedig: plant 20A, 20, 21A, 21,
22A, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28A, 28B, 28, 30, 31, 39 11. Rhoi organau’n ymwneud ag oedolion byw nad yw’r galluedd ganddynt i gydsynio 70, 71, 72 12. Preserfio deunydd at ei drawsblannu 73 13.
Canllawiau
|
10 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (5 munud) Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir y cynnig: Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) |
Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 3 Gorffennaf 2013